Cofnodion cyfarfod cyntaf Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol y Pumed Cynulliad
Dydd Mawrth 14 Mehefin 2016
Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cyflwynodd Lynne Hughes ei hun fel Cadeirydd Is-bwyllgor Dylanwadu Cynghrair Niwrolegol Cymru a chroesawodd bawb i Grŵp Trawsbleidiol y Pumed Cynulliad.
Yna rhestrodd Lynne Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol ar y Grŵp:
Enw |
Dyddiad |
Grŵp plaid |
Mark Isherwood AC |
1 Mehefin 2016 |
Y Ceidwadwyr Cymreig |
Dr. Dai Lloyd AC |
1 Mehefin 2016 |
Plaid Cymru |
Vikki Howells AC |
1 Mehefin 2016 |
Llafur Cymru |
Lee Waters AC |
14 Mehefin 2016 |
Llafur Cymru |
Huw Irranca-Davies AC |
14 Mehefin 2016 |
Llafur Cymru |
Angela Burns AC |
14 Mehefin 2016 |
Y Ceidwadwyr Cymreig |
David Rees AC |
14 Mehefin 2016 |
Llafur Cymru |
Yna, enwodd gynrychiolwyr Pwyllgor Gweithredol Cynghrair Niwrolegol Cymru
Enw |
Sefydliad |
Lynne Hughes |
Cymdeithas MS |
Ana Palazon |
Y Gymdeithas Strôc |
Dave Maggs |
Headway |
Barbara Locke |
Parkinson's UK |
David Murray |
Cure Parkinson’s |
Kevin Thomas |
Cymdeithas MND |
Ann Sivapatham |
Epilepsy Action |
Dafydd Williams |
Muscular Dystrophy UK |
Carol McCudden |
Ataxia UK |
Michelle Herbert |
The Brain Tumour Charity |
Dilwyn Jones |
Brain Injury Rehabilitation Trust |
Ahmad Butt |
British Polio Fellowship |
Esboniodd Lynne fod cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol yn agored i'r cyhoedd ac yr anfonir gwahoddiadau i sefydliadau sy'n aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru ac eraill sydd â diddordeb mewn cyflyrau niwrolegol.
Aelodau presennol Cynghrair Niwrolegol Cymru yw:
Enw'r aelod |
· Ataxia UK |
· Brain Injury Rehabilitation Trust |
· Brain and Spine Foundation |
· British Polio Fellowship |
· Charcot Marie Tooth UK |
· Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi |
· Children’s Brain Injury Trust |
· Cure Parkinson's Trust |
· Different Strokes · Dystonia Society |
· Epilepsy Action Cymru |
· Epilepsy Cymru |
· Headway Cymru |
· Meningitis Now |
· Migraine Action |
· Y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor |
· Cymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru |
· Muscular Dystrophy UK |
· Myasthenia Gravis |
· Y Ganolfan Niwrotherapi |
· Y Gynghrair Niwrolegol |
· Parkinson's UK |
· Progressive Supra Nuclear Palsy Association |
· Shine Cymru |
· Y Gymdeithas Strôc |
· The Brain Tumour Charity |
Esboniodd Lynne mai nod y Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol yw gwella gwasanaethau i bobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol. Amcanion y grŵp oedd:
· Ymgysylltu â phobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol a gweithio mewn partneriaeth â hwy
· Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol a'u heffaith ar unigolion a'u cymunedau
· Rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am anghenion pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol, a dylanwadu arni.
· Cefnogi a hybu gwaith ymchwil priodol.
Aeth Lynne rhagddi i egluro y cynhaliwyd dau ymchwiliad yn ystod cyfnod Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol y Pedwerydd Cynulliad. Roedd yr ymchwiliadau hynny'n ymwneud â Chyflyrau Niwrolegol (2011) a Mynediad at Niwro-ffisiotherapi (2013) ac roedd yn falch bod y rhain wedi cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth flaenorol Cymru i lunio Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol. Roedd y grŵp trawsbleidiol hefyd yn flaenllaw wrth ymateb i'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol drafft, ac erbyn hyn roedd gan Gynghrair Niwrolegol Cymru dri chynrychiolydd ar y Grŵp Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol.
Mae'r Llywodraeth wedi addo y caiff y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol ei adnewyddu yn 2017 ac esboniodd bod gan y Grŵp Trawsbleidiol dipyn o waith i'w wneud i sicrhau bod llais y bobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol yn cael ei gynnwys yn y broses hon.
Yna etholwyd Cadeirydd ac Ysgrifennydd ar gyfer Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol y Pumed Cynulliad.
Etholwyd Mark Isherwood AC yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, a chafodd ei gynnig gan Ana Palazon, a'i eilio gan David Murray.
Etholwyd Megan Evans, Cydgysylltydd Gynghrair Niwrolegol Cymru yn Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol, a chafodd ei chynnig gan Dilwyn Jones a'i heilio gan Lynne Hughes.
Gofynnodd Lynne a allai'r cynrychiolwyr aros i rwydweithio gyda'r sefydliadau a oedd yn bresennol ac yn aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru. Roedd wedi dod â gwybodaeth i'w dosbarthu.